Dyma bechadur truan, gwan,
Yn gruddfan dan ei boen,
Yn methu dod i'r ffynon rad,
Santeiddiaf waed yr Oen.
Rho brawf i'm o'r winwydden rydd
O fywyd sydd yn llawn;
Y ffynon fawr agorwyd fry
Ar Galfari brydnawn.
Cysurwch fi, afonydd pur,
Rhedegog ddyfroedd byw,
Sy'n tarddu o dan riniog cu
Sancteiddiaf dŷ fy Nuw.
Yn nyfnder profedigaeth du,
Dos dy hunan o fy mlaen;
Ond i mi gael bod gydâ thi,
Nid ofnaf ddw'r na thân.
- - - - -
Dyma bechadur truan gwan
Yn griddfan tan ei boen,
Yn methu dod i'r ffynnon rad,
Santeiddiaf waed yr Oen.
Duw, dere'n glau, mae'n gyflawn bryd,
Mae bellach yn hwyrhau,
A grym fy mhla sydd wedi'm rhoi
I hollol lwyfrhau.
O maddeu 'mai, a chliria'n llwyr,
F'euogrwydd oll i gyd;
Ac na'd im' flino
d'Ysbryd mwy
Tra byddwyf yn y byd.
William Williams 1717-91
Tôn [MC 8686]: Newbury (<1835) gwelir: Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw 'Rwy'n morio tua chartre'm Nêr Yn nyfnder pob cyfyngder du Yn nyfnder profedigaeth ddu |
Behold a poor, weak sinner,
Groaning under his pain,
Failing to come to the gracious fount,
The most sacred blood of the Lamb.
Give an experience to me of the free vine
Which is full of life;
The great fount was opened up
On Calvary one afternoon.
Comfort me, ye pure rivers,
Running with living waters,
Which issue from under the dear threshold
Of the most sacred house of my God.
In the depth of black bereavement,
Come thyself before me;
If only I get to be with thee,
I shall fear neither water nor fire.
- - - - -
Here is a wretched weak sinner
Groaning under his pain,
Failing to come to the free fountain,
The most sacred blood of the Lamb.
God, come quickly, it is high time,
Now it is growing late,
And the force of my plague has made me
Completely lose heart.
O forgive my fault, and clear completely
All my guilt altogether;
And do not let me grieve
thy Spirit any more
While ever I am in the world.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|